Gwyddoniaeth ac Ymchwil

Mae’r Bumblebee Conservation Trust yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan wyddoniaeth ac rydym yn arwain unig arolwg safonol y DU ar grŵp peillio mawr yn seiliedig ar niferoedd – BeeWalk – gyda mwy na 350 o safleoedd yn cael eu monitro bob mis drwy gydol y tymor hedfan. Rydyn ni bob amser yn awyddus i gydweithio ar brosiectau cacwn, yn enwedig yn ymwneud â chadwraeth, ac yn cefnogi myfyrwyr is-raddedig ac ôl-radd yn rheolaidd, yn ogystal â gweithio gydag academyddion o brifysgolion a sefydliadau ymchwil ledled y DU.

Rydym hefyd yn casglu a chadw data eraill, yn benodol o’r Prosiect Cacwn Blewyn Cwta yn Dungeness, Caint. Mae’r prosiect hwn yn weithredol ers 2009, gan arolygu cacwn (gan gynnwys nifer o rywogaethau blaenoriaeth o ran cadwraeth) ac argaeledd porthiant blodau gwyllt ochr yn ochr â chynnal ymyriadau cadwraeth.

BeeWalk
Mae BeeWalk yn gynllun cofnodi cenedlaethol i fonitro nifer y cacwn ledled y DU. Byddai’r arolwg yn amhosib heb wirfoddolwyr sy’n nodi ac yn cyfrif y cacwn maent yn eu gweld ar daith awr bob mis rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Gall fod yn ffordd ddymunol iawn o dreulio awr neu ddwy ar ddiwrnod heulog.

I gymryd rhan, edrychwch ar dudalen BeeWalk neu ewch yn syth i’r wefan gofnodi!  Rydym yn cynhyrchu ystod o adnoddau i’ch helpu chi, o lawlyfr cerdded i ganllawiau fideo a thudalennau adnabod.

Mae BeeWalk yn cynhyrchu data am y toreth o rywogaethau gwahanol o gacwn ar drawsluniau o gynefinoedd hysbys ledled Prydain, rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Cesglir data am ymweliadau â blodau hefyd mewn is-set o’r trawsluniau hyn. Defnyddir data BeeWalk i gynhyrchu asesiad blynyddol o ba mor dda mae cacwn Prydain yn gwneud (Adroddiad Blynyddol BeeWalk), yn ogystal â chyfrannu at ystod o bapurau gwyddonol. Am fwy o fanylion, edrychwch ar y dudalen Cyhoeddiadau. Mae hyn yn darparu cyfoeth o gyfleoedd i’w dadansoddi.


Myfyrwyr
Rydym wedi gweithio gydag ystod o fyfyrwyr is-raddedig ar eu traethodau hir, a gyda myfyrwyr Meistr ar brosiectau. Rydym hefyd yn gweithredu fel partneriaid CASE ar brosiectau PhD ac fel cynghorwyr ar eraill. Am fanylion am brosiectau gorffenedig, edrychwch ar ein tudalen Cyhoeddiadau.

Rydym bob amser yn agored i fwy, ac mae gennym ystod o brosiectau posibl a amlinellir isod – os ydych chi’n fyfyriwr ac eisiau gweithio ar un o’r rhain (neu brosiect gwahanol y credwch y gallem helpu ag o), neu, yn fwy cyffredinol, os hoffech gydweithio â ni neu ddefnyddio ein data mewn prosiect, e-bostiwch ein Rheolwr Gwyddoniaeth ar richard.comont@bumblebeeconservation.org

Astudiaethau achos myfyrwyr:

Peter Pike, BSc Gwyddor Anifeiliaid, Prifysgol Caergaint. Ymchwilio i wahaniaethau mewn cynhyrchu paill a neithdar rhwng Meillion Coch sy’n tyfu yn y gwyllt ac amaethyddol (Trifolium pratense).

Roedd meillion coch yn rhan amlwg o dirwedd Prydain ar un adeg, i’w gweld ar ddolydd blodau gwyllt. Roedd y dolydd blodau gwyllt hyn yn rhoi i boblogaethau o gacwn borthiant hanfodol ar gyfer iechyd a goroesiad y boblogaeth – neithdar ar gyfer carbohydradau a phaill yn brotein a braster hanfodol.

Oherwydd dwysáu amaethyddol yn yr 20fed ganrif, mae dolydd blodau gwyllt wedi diflannu – effaith sydd wedi arwain at ddirywiad mewn poblogaethau o gacwn a diflaniad dwy rywogaeth frodorol. Mewn ymgais i ddiogelu dyfodol y 24 o rywogaethau o gacwn sy’n weddill, mae cynlluniau amaeth-amgylcheddol wedi’u gweithredu i ail-greu cynefin sy’n llawn cyfoeth o flodau mewn ardaloedd fel ymylon caeau a phorfeydd pori. Mae’r cynlluniau hyn yn cynghori ffermwyr i hau cymysgeddau tyfu yn yr ardaloedd hyn, gan eu bod yn rhad ac yn gweithio’n dda mewn cylchdroi ffermydd, ond nid oes unrhyw waith wedi’i wneud ar gynnwys paill a neithdar y cyltifarau hyn o’u cymharu â rhai o fath gwyllt.

Os bydd y cymysgeddau hyn yn llwyddiannus wrth warchod poblogaethau o gacwn, rhaid iddynt allu darparu ansawdd a maint digonol o borthiant. Bydd Peter yn ymchwilio i hyn trwy edrych ar y neithdar a’r paill mewn meillion coch gwyllt a meillion coch sy’n cael eu meithrin. Bydd faint o neithdar a gynhyrchir gan y ddau fath yn cael ei gofnodi a’i ddadansoddi ar gyfer cynnwys swcros, gan ddefnyddio reffractomedr llaw. Bydd paill yn cael ei gasglu o’r ddau fath a’i ddadansoddi ar gyfer cynnwys protein gan ddefnyddio Prawf Bradford. Bydd y canlyniadau wedyn yn cael eu dadansoddi ar gyfer gwahaniaethau rhwng y meillion coch gwyllt a chyltifar.

Jake Jones, BSc Rheolaeth Cefn Gwlad ac Amgylcheddol, Prifysgol Harper Adams. Ymchwilio i wahanol ddefnydd o borthiant gan rywogaethau tafod byr, canolig a hir o gacwn.

Mae gan gacwn y genws Bombus dafodau o hyd amrywiol, sy’n gallu cyfyngu ar yr hyn y gall y cacwn fwydo arno. Maent yn perthyn i dri grŵp: tafodau byr, canolig a hir. Y pedair rhywogaeth y bydd traethawd Jake yn canolbwyntio arnynt yw Cardwenyn gynefinol a Chardwenynen rhesen frown, sef dwy rywogaeth tafod hir ac yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (BAP); un rhywogaeth tafod canolig, sef y Gacynen gynffongoch, ac un gacynen tafod byr, y Gacynen cynffon lwydfelyn. Gobeithio y bydd y traethawd hir yn darganfod rhywogaethau allweddol o blanhigion sy’n ffynhonnell sefydlog o borthiant i’r cacwn gyda thafodau o dri hyd. Gobeithio y bydd hyn yn dangos rhywogaethau o blanhigion sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin gan bob un o’r pedair rhywogaeth rhwng misoedd Ebrill a Medi.

Bydd y traethawd hir hefyd yn edrych ar bwysigrwydd y Farddanhadlen Wen i gacwn. Mae’r rhywogaeth hon yn blodeuo ddwywaith y flwyddyn, unwaith ym mis Ebrill ac eto ym mis Awst, sef adegau allweddol o’r flwyddyn i’r frenhines sefydlu poblogaeth, neu fynd i gysgu dros y gaeaf. Bydd dadansoddi pridd yn digwydd yn ystod yr haf i weld a oes gan y planhigyn unrhyw gyfyngiadau o ran ble y gall dyfu. Bydd hyn er mwyn ymchwilio i a ellir annog a rheoli’r ddanhadlen ar draws ardal y prosiect, gan fod y blodau’n ymddangos yn lleol iawn ar Gors Romney. Yn gyffredinol, bydd y traethawd hir yn helpu i roi darlun cliriach o’r planhigion y mae’r cacwn yn dibynnu arnynt rhwng misoedd Ebrill a Medi.

Hope Moran, BSc Bioleg Anifeiliaid, Prifysgol Caerwrangon. Mesur porthiant o samplu paill ar gacwn Prydain.

Mae poblogaethau cacwn wedi dirywio’n ddramatig yn y DU yn ystod y ganrif ddiwethaf: mae dwy rywogaeth wedi diflannu ac mae dwy rywogaeth arall (y Gardwenynen feinlais a’r Gacynen felen fawr) wedi dirywio mor ddifrifol fel bod perygl iddynt ddiflannu am byth.

Mae’r dirywiad hwn wedi arwain at bryder cynyddol am beillwyr. Y prif achos yw newidiadau rheoli tir sy’n dileu blodau o’r tirlun. O ganlyniad, mae’r ymyriadau cadwraeth cyfredol yn canolbwyntio ar sefydlu ardaloedd sy’n llawn cyfoeth o flodau. Mae gwaith monitro wedi canolbwyntio’n draddodiadol ar gyfradd yr ymweliadau â blodau, gan anwybyddu i raddau helaeth y ffaith y gall ymweliadau â blodau fod am sawl rheswm, a dim ond un ohonynt yw casglu paill er mwyn darparu’r nyth. Er mwyn gwella addasrwydd y strategaethau rheoli tir, mae angen i ni ddatblygu technegau monitro sy’n gallu cysylltu’n well yr ymddygiad arsylwol (fel ymweliadau â blodau) â sut mae cacwn, mewn gwirionedd, yn defnyddio ardal.

Ar gyfer hyn, mae sefydlu’r rhyngweithio rhwng adnoddau paill a’r defnydd yn hanfodol; mae larfa cacwn yn bwydo ar baill yn gyfan gwbl bron, ond, heb fod yn hedfan, maent yn gwbl ddibynnol ar y paill sy’n cael ei gludo gartref gan y cacwn yn eu llawn dwf. Nod y prosiect hwn yw datblygu methodoleg ar gyfer mesur y defnydd o adnoddau bwydo trwy gymharu data ymweld â blodau â chyfansoddiad y paill a gasglwyd gan gacwn yn yr un ardal. Byddwn yn datblygu’r fethodoleg hon gan ddefnyddio rhywogaethau cyffredin o gacwn, gyda’r nod hirdymor o ddefnyddio’r fethodoleg a ddatblygwyd i fesur adnoddau bwydo ar gyfer cacwn prin.

Byddai’r prosiect yn cynnwys dal cacwn yn ardal Bryniau Malvern; byddai grawn paill yn cael ei samplu o blanhigion a chacwn yn cael eu dal yn safle’r prosiect, a chesglir data am ymweliadau â blodau. Byddwn yn cymharu cyfansoddiad y paill a gasglwyd gan gacwn â chyfraddau ymweld â blodau, i nodi’r rhywogaethau hynny o blanhigion a orgynrychiolir neu a dangynrychiolir yn nefnydd y cacwn o baill yn erbyn disgwyliadau o ymweliadau â blodau. Bydd hyn yn galluogi cyflwyno argymhellion ar ddichonoldeb y fethodoleg fonitro hon.


Prosiectau o ddiddordeb

Defnyddio geneteg i ofyn cwestiynau am y Gacynen cynffon wen gymhleth
Mae amrywiaeth o gwestiynau i’w hateb o hyd am y Gacynen cynffon wen gymhleth (Bombus lucorum, Bombus magnus a Bombus cryptarum):

    • Pa mor eang yw dosbarthiad y rhywogaethau yn iseldir Lloegr?
    • A yw’r rhywogaethau sydd i’w gweld yn bennaf yn ardaloedd mynyddig yr Alban hefyd i’w gweld yn ucheldiroedd Cymru a Lloegr?
    • A oes unrhyw wahaniaethau morffolegol dibynadwy mewn castau gwahanol?

Mae’r cwestiynau hyn (a llawer o rai eraill) yn dibynnu ar arsylwi maes manwl gywir a ategir gan ddadansoddiad genetig o sbesimenau i rywogaethau.

Ymweliadau â blodau: siawns neu ddewis?
Mae llawer o wirfoddolwyr BeeWalk yn casglu data am ymweliadau â blodau ar eu trawsluniau, ac mae rhai hefyd yn casglu data am y nifer o wahanol rywogaethau o flodau yn eu hardal. Mae hyn yn rhoi cyfle i edrych ar i ba raddau y mae cacwn o wahanol rywogaethau’n dangos unrhyw hoffter penodol o wahanol rywogaethau o flodau.

Comments are closed.

Registered Charity No. 1115634 / Scottish Charity No. SC042830

Copyright © 2019 Bumblebee Conservation Trust. All Rights Reserved.